Newyddion

Ffermio gyda Dŵr Cymru

Cymru
Dwfr

Ffermio gyda Dŵr Cymru

Mae Dŵr Cymru yn chwilio am grwpiau o ffermwyr fyddai â diddordeb mewn gweithio gyda ni i helpu diogelu ein cyflenwadau dŵr yfed. Perchnogaeth cyfyngedig sydd gan y cwmni o’r tir y daw ein dŵr yfed ohono. Er mwyn sicrhau bod y dŵr o’r ansawdd gorau y gall fod cyn iddo gyrraedd y gwaith trin dŵr, mae’r cwmni’n edrych i weithio gyda grwpiau ffermwyr mewn dalgylchoedd i ddod o hyd i syniadau rheoli tir newydd neu arloesol a fydd yn gwarchod ei ffynonellau yn awr ac am flynyddoedd i ddod.

“Er gwaethaf pob gofal ac ymdrech, gall rhai gweithgareddau ac arferion amaethyddol effeithio yn andwyol ar ansawdd dŵr,” meddai Cydlynydd Partneriaethau Dalgylch Alwyn Roberts. “Rydym am weithio gyda grwpiau yn ein dalgylchoedd i ddod o hyd i gyfleoedd i wella ansawdd dŵr sydd o fudd i effeithlonrwydd ffermio, yn ogystal â bioamrywiaeth a’r amgylchedd ehangach.”

“Rydym yn cynnig ariannu grwpiau wedi’u hwyluso, yn Gymraeg neu Saesneg, i gefnogi syniadau newydd allai amrywio o ddod â siaradwyr arbenigol i mewn i drefnu ymweliadau cyfnewid, neu o rannu rhai o’r risgiau sy’n gysylltiedig â threialu dulliau newydd i ehangu syniadau i’w hymgorffori i fusnes bob dydd aelodau’r grŵp.”

Os oes gennych ddiddordeb mewn sefydlu neu ymuno â grŵp ac yr hoffech gael gwybod mwy, anfonwch e-bost at watersource@dwrcymru.com